Ers ei apwyntio i’r Cabinet yn 2000 mae Carwyn wedi amlygu arweiniad ar draws ystod eang o faterion yn cynnwys yr amgylchedd, tai, materion gwledig, addysg a materion cyfansoddiadol. Arweinodd Gymru yn ystod argyfwng clwy y traed a’r genau ac argyhoeddodd y ffermwyr i weld manteision datganoli. Fel y Cwnsler Cyffredinol fe oedd y ddolen gyswllt rhwng Llywodraeth y Cynulliad ac Aelodau Seneddol wrth ddatblygu pŵerau newydd y Cynulliad o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Bu Carwyn yn cynrychioli Cymru mewn cyfarfodydd gyda Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop – lle ymhlith materion eraill diogelodd statws Cymru fel gwlad heb gnydau GM.
Mae Carwyn wedi chwarae rôl allweddol yn record blaengar Llywodraeth y Cynulliad ar daclo newid hinsawdd. Cyhoeddodd y Cynllun Datblygu Cynhaliol cyntaf, cynllun a hyrwyddoad chynhaladwyaeth ar draws holl gweithgareddau’r Cynulliad. Sicrhaodd fod targedau uchelgeisiol ar ailgylchu, effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddol yn cael eu gwireddu. Yn 2006 cyhoeddodd Strategaeth Amgylcheddol 20 mlynedd i Gymru wrth ddatblygu ar raglen newydd i wella ansawdd amgylcheddol ac i weithredu cynllun addasu i newid hinsawdd.
Bu hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at wella cymunedau ledled Cymru. Bu’n arwain rhaglenni hyrwyddo tai fforddiadwy trwy’r system gynllunio ac hefyd cyfwlynodd gwellhad uniongyrchol mewn cymunedau trwy daclo ymddwyn gwrthgymdeithasol fel gollwng gwastraff, llygredd sŵn a gatio lonydd. Llwyddodd i sicrhau arian newydd i arbed llifogydd, gwelliannau sylweddol yng nglendid traethau a chanllawiau newydd i warchod canol trefi ac i leihau datblygu ar lifwastadedd.
Yn 2001 arweiniodd Carwyn ymdrech Cymru i daclo argyfwng clwy’r traed a’r genau – ymateb a gafodd ei ganmol yn fawr iawn yn Ewrop, a sicrhäodd bod cynlluniau effeithiol yn eu lle ar gyfer argyfyngau posib yn ymwneud â’r cyhoedd ac ag iechyd anifeiliaid.
Tra’n Weinidog fe oedd yn gyfrifol am faterion gwledig ac amaethyddol. Bu’n goruchwylio moderneiddio ffermio yng Nghymru trwy roi ffocws ar gynhaladwyaeth ac arallgyfeirio. Yn 2001 lansiodd ‘Cyswllt Ffermio’ – partneriaeth preifat/cyhoeddus arloesol yn cynnig cyngor ymarferol i deuluoedd ffermio ar gynyddu eu hincwm, trwy feithrin diwylliant mentrus a ffermio mewn ffyrdd sy’n amgylcheddol gynaladwy. Ymfalchia Carwyn hefyd ei fod wedi agor cefn gwlad i gerddwyr a thwristiaid. Yn 2003 llywiodd gynllun economi gwledig a gafodd ei ddisgrifio fel y gorau yn Ewrop.
Yn ystod yr amser byr y bu’n Weinidog Addysg, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg cyhoeddodd Carwyn y drafft i’r GCD [Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol] ar Anghenion Addysg Arbennig, cefnogodd fuddsoddi mewn gwybodaeth technoleg er mwyn ehangu’r cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu, darparodd grantiau er mwyn hybu cyraeddiadau addysgol y lleiafrifoedd ethnig a gosododd yn eu lle gynlluniau i ddelio â sgiliau sylfaenol a llwybrau dysgu 14 – 19.
Drwy gydol ei yrfa weinidogol mae Carwyn Jones wedi brwydro’n galed i sicrhau llais i Gymru. Ar lefel y DU pwysodd am ddŵr fforddiadwy i deuluoedd incwm isel, am fwy o bŵerau i daclo materion iechyd anifeiliaid, am gryfhau gwaharddiadau cnydau GM a chydweithiodd â phob adran o Lywodraeth y DU fel Cwnsler Cyffredinol Cymru.
