
Streic y glöwyr a ddaeth â Carwyn Jones at wleidyddiaeth Llafur pan roedd e’n fyfyrwyr 18 oed yn Aberystwyth ym 1985. Cafodd ei ethol yn un o’r cynghorwyr sir Llafur ieuengaf yng Nghymru ym 1995 ac aeth ymlaen i fod yn gadeirydd ar y Grŵp Llafur ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ym 1997 ymgyrchodd yn frwd dros ddatganoli fel ysgrifennydd y grwp Dwedwch Ie ym Mhen-y-bont a’r un flwyddyn cafodd e ei ethol fel aelod o’r Cynulliad yn 1999.
Ganwyd Carwyn Jones yn Abertawe. Mae gwreiddiau ei deulu ym Mrynaman, Sir Gaerfyrddin: sir enedigol ei rieniEr ei fod yn rhugl yn y Gymraeg, aeth Carwyn i ysgolion lleol Saesneg eu cyfrwng. Ar ôl Ysgol Gynradd Bryncethin aeth i Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ac yna i astudio ym mhrifysgol Cymru yn Aberystwyth. Ar ôl hynny hyfforddodd fel bargyfreithiwr yn yr Inns of Court School of Law yn Llundain, a chafodd ei alw i’r Bar yn Gray’s Inn ym 1989.
Cyn cael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bu’n gweithio am ddeg mlynedd fel bargyfreithiwr yn arbenigo yng nghyfraith deuluol, torcyfraith ac anaf personol yn Siambrau Gŵyr yn Abertawe ac mae e nawr yn denant drws yn Siambrau’r Deml yng Nghaerdydd. Hefyd am ddwy flynedd bu’n gweithio fel tiwtor proffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd ar Gwrs Galwedigaethol y Bar.
Dechreuodd ei yrfa Weinidogol yn gynnar pan gafodd ei apwyntio fel Dirprwy Ysgrifennydd dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Thir ym Mawrth 2000. Yng Ngorffennaf 2000 ymunodd â’r Cabinet fel Ysgrifennydd dros Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. O fewn ei gyfrifoldebau yn y rôl hon roedd yr amgylchedd, materion gwledig, cynllunio tref a gwlad, datblygu cynhaliol, amaethyddiaeth a datblygu gwledig. Ym mis Mehefin 2002 cafodd ei apwyntio fel Gweinidog Llywodraeth Agored.
Wedi etholiadau’r Cynulliad yn 2003 fe i apwyntiwyd fel Gweinidog y Cynulliad dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Cefn Gwlad.
Wedi etholiadau’r Cynulliad yn 2007 fe’i apwyntiwyd fel Gweinidog y Cynulliad dros Addysg, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg. Ar ôl i’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru gytuno ar glymblaid fe’i apwyntiwyd yn Gwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ.
Mae Carwyn yn briod â Lisa ac mae gyda nhw ddau o blant, Seren a Ruairi.
