Mae Carwyn wedi cyhoeddi Maniffesto.
Mae Carwyn yn ymweld a Wylfa heddiw. Mae e wedi gwneud datganiad pwysig y bore’ma.
Postiwyd yn Amgylchedd, Llafur, Polisi, Ynni | Leave a Comment »
Derbynnodd Carwyn Jones hwb sylweddol yn ei frwydr i olynu Rhodri Morgan fel Arweinydd Llafur Cymru wrth i chwech allan o saith Aelod Seneddol yng Ngogledd Cymru cyhoeddi eu cefnogaeth.
Mae’r gefnogaeth fwyafrifol yn y Gogledd yn dod diwrnodau cyn y dyddiad cau ar ddydd Iau (22 Hydref) ar gyfer enwebiadau oddi wrth Aelodau Seneddol y Blaid – sector pwysig o’r coleg etholaethol sydd yn dewis yr enillydd. Mae’r enwebiadau yn dangos yn glir fod Carwyn yn denu cefnogaeth fwyaf eang ar draws Cymru – yn fwy eang na’r ymgeisydd eraill.
Yr Aelodau Seneddol sydd wedi enwebu Carwyn yw:
David Hanson, AS Delyn (Gweinidog yn y Swyddfa Gartref dros yr Heddlu a Throsedd)
Ian Lucas, AS Wrecsam (Gweinidog dros Fusnes)
Albert Owen, AS Ynys Môn
Chris Ruane, AS Dyffryn Clwyd (Cadeirydd, Grŵp ASau Lafur Gogledd Cymru)
Mark Tami, AS Alyn a Glannau Dyfrdwy (Chwip Llywodraethol)
Betty Williams, AS Conwy
Yn siarad ynglyn a’u chefnogaeth ar gyfer Carwyn, dywedodd Chris Ruane:
“Dwi’n cefnogi Carwyn achos fe fydd y person gorau i uno Cymru gyfan – yn enwedig Gogledd Cymru. Mae’r ffaith fod ganddo gefnogaeth mwyafrif sylweddol ASau Llafur ar draws Gogledd Cymru – o Gaergybi i Lannau Dyfrdwy – yn arwyddocaol.”
Wrth gynnig eu henwebiad i Carwyn, dywedodd Albert Owen AS:
“Byddai’n cefnogi Carwyn yn yr etholiad dros yr Arweinyddiaeth achos dwi’n credu fe yw’r person i fynegi egwyddorion Llafur ar draws y wlad. Mae’[n rhaid i ni symud ymlaen, ac mae’r rhaid cael apêl eang. Rhaid ystyried yr etholaeth yn y wlad yn gystal ag etholaeth y Blaid Lafur. Mae gan Carwyn sgiliau arweinyddol a dyna pam byddai’n cefnogi fe.”
Dywedodd Leighton Andrews, Rheolwr Ymgyrch CarwynDrosLafur:
“Mae cefnogwyr ym mhob adran o’r blaid ac ar draws y wlad wedi croesawi weledigaeth Carwyn dros gyfeiriad y Blaid Lafur yn y dyfodol. Fe fydd Carwyn yn arweinydd dros Gymru gyfan. Mae’r adeiladu cefnogaeth gref ymhob cornel o’r wlad, ac rydym yn sicr fydd y momentwm hwn yn parhau dros y dyddiau nesaf.”
Postiwyd yn Cymru, Llafur, Uncategorized | Leave a Comment »
Ar ddiwedd yr ail wythnos, rydw i wedi fy mhlesio gan y lefel o gefnogaeth ledled Cymru.
Diolch i bawb a atebodd yr e-bost anfonwn yn ystod yr wythnos. Roeddwn yn hapus iawn i ennill enwebiad Unsain ar Ddydd Gwener, a hefyd yr enwebiadau oddiwrth Wrecsam ac Alyn & Glannau Dyfrdwy yn y Gogledd, ac Ogwr yn y Cymoedd.
Bydd mwy o etholaethau yn enwebu yn ystod yr wythnos hon. Ar Ddydd Mawrth, bydd y tri ymgeisydd yn cwrdd i ddadl yn Aberafan am y tro cyntaf. Rydw i’n edrych ymlaen at y ddadl!
Postiwyd yn Arweinyddiaeth, Cymru, Llafur | Leave a Comment »
Mae chwech Aelodau Seneddol o’r Gogledd yn cefnogi Carwyn.
Dyma neges oddi wrth Albert Owen AS:
Postiwyd yn Arweinyddiaeth, Cymru, Llafur | Leave a Comment »
Mae Llafur Cymru wedi cyhoeddi gwefan newydd ynglŷn â’r ymgyrch. Gellir lawrlwythio fy natganiad yma.
Postiwyd yn Arweinyddiaeth, Cymru, Llafur | Leave a Comment »
Trefnodd yr undeb Unison / Unsain digwyddiad bendigedig yn y Cynulliad neithiwr, gyda Llysgenhadwyr o Venezuela a Cuba. Ar adegau, rydym yn anghofio’r gwaith rhyngwladol mae ein hundebau yn eu gwneud. Mae Unsain wedi sefydlu perthnasau cryf gydag undebau rhyngwladol, yn cynnwys De America, a mynychwyd y digwyddiad gan nifer o Aelodau’r Cynulliad a swyddogion Unsain. Dylwn ni ymfalchïo yn y gwaith mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud yn rhyngwladol, yn cynnwys y rhaglen ‘Cymru o blaid Affrica’, ond atgoffon ni neithiwr am heriau eraill ar draws y byd.
Postiwyd yn Cymru, Llafur | Leave a Comment »
Fe wnaeth dau o gydweithwyr arall Carwyn yn y Cabinet datgan eu cefnogaeth yr wythnos hon: Brian Gibbons a Carl Sargeant. Gweinidog a Dirprwy Gweinidogion eraill sydd yn gefnogol yw Jane Davidson, Leighton Andrews a John Griffiths.
Dywedodd Brian Gibbons:
“Mae gan Carwyn egwyddorion Llafur cryf iawn. Mae’r blaid yn ei gwaed – a dyna pam – o Aberafan i Amlwch – fe yw’r person a gellir ymestyn i’r aelodaeth ledled Cymru. Mae’n rhaid i ni adeiladu plaid unedig gyda neges glir i lydanu ein hapêl ar draws y wlad. Carwyn yw’r unig ymgeisydd a gellir gwneud hynny.”
Dywedodd Carl Sargeant:
“Dwi’n sicr mae gan Carwyn y weledigaeth a’r cryfder i arwain ein brwydr ar draws Cymru – yn y Gogledd a’r Dde. Fe fydd yr Arweinydd dros Gymru Gyfan a dwi’n gwybod fod e’n anoddefgar i ddechrau gweithredu hyn. Dyna pam dwi’n cefnogi Carwyn.”
Dywedodd Leighton Andrews, Rheolwr Ymgyrch CarwyndrosLafur, wrth groesawu’r newyddion:
“Wrth i ni ddechrau’r ail wythnos o ymgyrchu, mae’n glir nad oes gan yr un ymgeisydd mwyafrif o enwebiadau oddi wrth ACau Llafur. Sut bynnag, mae gan Carwyn mwyafrif o enwebiadau oddi wrth Weinidogion Llafur.”
Postiwyd yn Arweinyddiaeth, Cymru, Llafur, Uncategorized | Leave a Comment »
Wrth ddechrau’r ail wythnos gyflawn o ymgyrchu, mae’n gyfle i bwyllo. Wythnos yn ôl, fe lansiwyd fy ymgyrch ym Mhen-y-bont ar Ogwr – y lle cefais fy magu, lle dychwelais i fyw, lle phriodais, a lle dwi nawr yn falch iawn o gynrychioli yn y Cynulliad.
Rydym wedi derbyn cefnogaeth fendigedig ers i ni lawnsio. Dwi wedi fy synnu gan y negeseuon canmoladwy oddiwrth aelodau ledled Cymru – o Fôn i Fynwy, o’r Cymoedd ac o Gefn Gwlad. Dywedais fy mod i eisiau fod yn Arweinydd dros Gymru Gyfan, ac mae’n bleser derbyn cefnogaeth o gymunedau ar draws y wlad.
Wythnos diwethaf, es i i’r Gogledd i gwrdd ag aelodau’r Blaid Lafur ym Mangor a Môn, wedyn draw i’r Rhyl, Wrecsam, yr Wyddgrug a Broughton. Dros y penwythnos, fe wnes i ymweld ag Abertawe a’r Rhondda ac wedyn mynychais barti’r Blaid ar gyfer Gŵyl Eid ar Ddydd Sul.
Rydw i wedi cael persbectif eang ar Gymru wrth deithio o gwmpas y wlad. Braint yw byw mewn gwlad mor arbennig a phrydferth, lle mae gan y bobl disgwyliadau mor uchel o’i gwleidyddion. Gellir cyflawni cymaint. Yr her i ni yw llwyddo ar eu rhan.
Postiwyd yn Arweinyddiaeth, Cymru, Llafur, Uncategorized | Leave a Comment »
